O’r Pedwar Gwynt a’r Garafan

18 May 2016, 7.30yh
Aberystwyth

Cyfle i glywed dau awdur-olygydd, y naill o Gymru a’r llall o India, yn trafod cyfraniad cylchgronau llenyddol tuag at y sîn lenyddol gyfoes a’r drafodaeth ar ddiwylliant a beirniadaeth rhyngwladol.

Anjum Hasan yw Golygydd Llyfrau The Caravan – cyfnodolyn blaenllaw yn India sy’n ymdrin â gwleidyddiaeth a diwylliant – tra fo Owen Martell yn Gyd-Olygydd cylchgrawn llenyddol O’r Pedwar Gwynt sy’n cael ei lansio ym mis Awst 2016. Yn ogysal â gweithio ar gylchgronau llenyddol, mae Anjum ac Owen ill dau yn awduron sydd wedi cyhoeddi tair nofel yr un ynghyd â chasgliad o straeon byrrion.

Dan gadeiryddiaeth Arwel Rocet Jones o Gyngor Llyfrau Cymru, caiff y digwyddiad dwyieithog yma ei drefnu gan Llenyddiaeth Ar Draws Ffiniau a Chyfnewidfa Lên Cymru sy’n rhan o Sefydliad Mercator, Prifysgol Aberystwyth. Daw cefnogaeth o du Cyngor Celfyddydau Cymru a Rhaglen Greadigol yr Undeb Ewropeaidd.

Mae tocynnau ar gyfer y noson yn £20 gan gynnwys swper Sbaeneg swmpus yn Ultracomida ac mae angen prynu arlein ymlaen llaw trwy wefan Eventbrite.

Mae rhai tocynnau gostyngedig i’w cael ar gyfer myfyrwyr (£15 y pen) ond bydd angen cysylltu gyda ni’n uniongyrchol ar gyfer y rhain trwy ebostio news@lit-across-frontiers.org.

(English)